Pam sauna
Amrywiaeth o fanteision ar gyfer iechyd a lles.
croeso
Mae sawna yn cynnig llu o fuddion iechyd anhygoel, sy’n eu gwneud yn ychwanegiad gwerthchweil i’ch arferion lles.
Ymae wedi’i brofi bod sawnau yn gwella iechyd cardiofasgwlaidd, gyda buddion felgwell cylchrediad y gwaed. Gall yr effaith hon fod o fudd i’ch calon, gan ei bod yn helpu i ostwng pwysedd gwaed ac yn gwella’ch gweithrediad cardiofasgwlaidd yn gyffredinol. Gall sesiynau sawna rheolaidd gyfrannu at galon iachach ac at leihau’r risg o wahanol gyflyrau cardiofasgwlaidd.
Mae’n ffaith hysbys hefyd bod sawnau yn gallu dadwenwyno’r corff. Mae chwysu yn broses naturiol sy’n helpu i waredu gwenwynau, ac mae’r tymheredd uchel mewn sawna yn hyrwyddo chwys. Wrth i chi chwysu, mae’ch corff yn rhyddhau amhureddau, fel metelau trwm a llygryddion, gan beri i chi deimlo’n adnewyddedig ac wedi’ch adfywio.Gall sawnau ddarparu rhyddhad i gyhyrau a chymalau poenus. Mae’r gwres yn helpu i ymlacio’r cyhyrau, i leddfu tensiwn ac i leihau llid. Gall hyn fod yn arbennig o fuddiol i athletwyr neu unigolion sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn rheolaidd. Gall sesiwn yn y sawna helpu i adfer cyhyrau ac i leddfu cymalau poenus, i’ch adfywhau yn barod ar gyfer eich antur nesaf. Mae sawna yn ffordd wych o roi hwb i’ch system imiwnedd. Gall y cynnydd dros dro yn nhymheredd y corff, yn ystod sesiwn sawna, ysgogi cynhyrchiad celloedd gwaed gwyn, sy’n hanfodol i ymladd heintiau a chlefydau.
Trwy atgyfnerthu’ch system imiwnedd, gall sawnau eich helpu i gadw’n iach a rhag salwch.Gall ymgorffori sesiynau sawna rheolaidd yn eich arferion lles wella eich iechyd a’ch lles yn gyffredinol. Felly beth am dretio’ch hun i orig o ymlacio, gwaredugwenwynau, ac elwa ar y buddion niferus sydd gan sawnau i’w cynnig? Bydd eich meddwl, eich corff a’ch ysbryd yn diolch i chi! Rhowch hwb i’ch iechyd a’ch lles drwy gymorth sawna.

Mae ymchwil ddiweddar yn awgrymu y gall hyd yn oed 57 munud wythnosol mewn sawna arwain at well metaboledd a llesiant, a gwell cyflawniad. Rydym yn taer annog pawb i roi cynnig arni, i gamu y tu hwnt i’w cylch cysur, gan groesawu’r cyfle i ymlacio, i adfywio ac – yn syml iawn – i fodoli.