Beth i'w ddisgwyl
Rydym yn credu mewn grym ymlacio a lles
croeso
Rydyn ni’n cynnig cyfle unigryw i chi ymgolli yng ngwres lleddfol sawna, wedi’ch amgylchynu gan harddwch naturiol cefn gwlad Ynys Môn.
P’un a ydych chi’n awyddus i ymlacio ar ôl diwrnod hir, i dreulio amser gwerthfawr gydag anwyliaid, neu’n syml, i fwynhau mymryn o lonydd, mae ein sesiynau sawna preifat ac ar y cyd yn gweddu i’ch anghenion unigol. Camwch i mewn i’n sawna symudol cyfforddus, gwahoddgar; anghofiwch am y byd a’i bethau, a chaniatewch i’r gwres therapiwtig lapio’i hun fel blanced gynnes amdanoch chi. Mae’n bryd i chi brofi swyn Sawna Bedo Sauna, a chychwyn ar daith les heb ei thebyg. Mae pwll plymio oer ar gael hefyd.
Rydyn ni’n Feistri Sawna Aufguss ardystiedig, sy’n medru cynnig profiadau trwytho theatrig a defodau puro drwy stêm er budd profiad thermotherapi unigryw.
Dewch i wella’ch lles drwy brofiad sawna unigryw.
Y profiad
Darganfyddwch brofiad sawna unigryw o wahanol. Profwch ddefod Aufguss yr Almaen.
Yn gryno, defod sawna 15 munud (neu fwy) yw Aufguss, dan arweiniad Meistr (neu feistri) Aufguss. Beth yw Aufguss? Defod sawna gystadleuol, 15+ munud o hyd dan arweiniad meistr hyfforddedig. Aufguss (“trwytho” yn yr Almaeneg): sesiwn sawna dan arweiniad meistr. Mae meistri Aufguss yn arllwys dŵr persawrus a rhew dros gerrig poeth, ac yna’n chwyrlïo’r stêm gan ddefnyddio technegau tywel arddulliedig. Mae’r profiadau’n amrywio o’r rhai traddodiadol (sy’n ffocysu ar iechyd) i’r modern (cerddoriaeth, goleuadau, gwisgoedd). Maen nhw i gyd yn deffro’r pum synnwyr.
Budd-daliadau
Mae llawer o fanteision i unrhyw ymarfer sawna.
Wrth i’r corff gynhesu, mae croendyllau’n agor ac yn rhyddhau gwenwynau i buro ac i lanhau’r corff. Gall y tymereddau uchel a’r chwys, ynghyd â thechnegau anadlu, ysgogi thermoreolaeth barasympathetig a chymell cyflwr o ymlacio dwfn. Mae’r tymereddau uchel hefyd yn helpu i gryfhau’r system imiwnedd trwy beri i’r corff fynd i gyflwr twymynol am gyfnod byr. Mae rhai astudiaethau’n dangos y gall arferion sawna hyrwyddo hir oes a lleihau’ch siawns o ddal rhai afiechydon. Gall cyflwyno’r elfen aromatherapi, gan ddefnyddio olewau naws, hefyd effeithio ar ymlaciad, emosiwn ac egni. Mae goleuadau a cherddoriaeth eto’n cyfoethogi’r profiad, trwy gyd-fynd â rhythm y chwifio tywelion a chan ennyn ymdeimlad o edmygedd, ysbrydoliaeth a throsgynoldeb. Mae’r agwedd gymunedol ar Aufguss yn rhan fawr o’r ddefod hon, ac mae cysylltiadau cymunedol cryf yn tueddu i gyfateb i iechyd cymdeithasol a hir oes. O’u cyfuno, gall yr holl elfennau ysgogi teimladau cathartig, myfyriol, bywiocaol, ymlaciedig a llawen.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Gwybodaeth ddefnyddiol
Mae profiad llesiant unigryw o’ch blaenau! Cyn i chi baratoi i ymuno â ni yn Bedo, dyma rai argymhellion er mwyn ichi fwynhau’r sawna i’r eithaf.
1
Dewch â dau dywel a dillad cynnes, cyfforddus, llac. Un tywel i eistedd arno yn y sawna, ac un tywel i sychu’ch corff. Dillad sych, a chap a choban/cot gynnes yn ystod misoedd y gaeaf.
2
Dewch â dŵr yfed a byrbrydau; mae fflasg o de llysieuol poeth wastad yn beth da yn ystod y misoedd oerach.
5
Cadwch ein sawna yn lân ac yn daclus; golchwch eich traed a thynnwch eich esgidiau cyn mynd i mewn, yn ddi-ffael.
3
Mae cawodydd oer i’w defnyddio cyn eich profiad sawna, yn ystod eich sesiwn ac ar ei hôl. Mae gennym ni ardal newid fach a thoiledau ar y safle, ond rydyn ni’n argymell ichi ddod yn eich gwisg nofio yn barod – i wneud y gorau o’ch amser.
4
Gwrandewch ar eich corff; gadewch y sawna ar unwaith os ydych chi’n teimlo’n chwil neu’nben ysgafn. Os mai dyma’ch tro cyntaf mewn sawna Ffinnaidd traddodiadol, rydyn ni’n eich cynghori i dreulio 3-5 munud ar y tro. Gwrandewch ar eich greddf ac ymlaciwch.
6
Wrth arllwys dŵr ar y cerrig, defnyddiwch ddŵr ffres yn unig a fydd yn cael ei ddarparu i chi yn y bwced sawna. Arllwyswch yn araf; gall y gwres fod yn llethol. Cynghorir llwythi bach bob 3 – 5 munud. Bydd arllwys gormod o ddŵr yn oeri’r cerrig yn gyflym, gan leihau’r gwres yn y sawna ac amharu ar eich profiad.
7
Nid yw’r tân i’w gyffwrdd. Gochelwch rhag ymyrryd ag unrhyw dyllau aer, ac rhag codi drws y stôf; gallai hyn arwain at lenwi’r ystafell wres gyda mwg ac achosi profiad annymunol.
8
Mwynhewch eich hunain...Gwneir pawb yn gydradd, yn enwedig mewn sawna!