LLEOLI
Sawna Bedo Sauna, Bedo, Llanfachraeth, Caergybi, Ynys Môn. LL65 4DH.
Cyfarwyddiadau
Cyfarwyddiadau i Sawna Bedo Sauna yn Llanfachraeth, Ynys Môn
I gyrraedd Sawna Bedo Sauna ym mhentref Llanfachraeth,Ynys Môn, Gogledd Cymru, dilynwch y cyfarwyddiadau manwl hyn – ar sail eich man cychwyn:
1
Nodwcheich man cychwyn:
Os yn teithio o’r Fali, fe ddewch chi tua Lanfachraeth ar hyd yr A5025. Os yn teithio o Lanfaethlu, byddwch chithau hefyd yn dod ar hyd yr A5025.
2
Ffeindio’ch ffordd trwy Lanfachraeth:
Wrth i chi yrru trwy bentref Llanfachraeth, cadwch lygad am siop ‘Premier’. Mae’r siop hon yn dirnod allweddol.
5
Troad Olaf:
Ar ôl ichi basio ‘Parc Llynnon’, edrychwch am y troad nesaf ar y dde. Mae Sawna Bedo Sauna wedi’i leoli yma.
3
Troadau:
O’r Fali: Ar gyrraedd y siop ‘Premier’, trowch i’r dde. O Lanfaethlu: Os ydych chi’n dod o’r cyfeiriad hwn, trowch i’r chwith ger y siop ‘Premier’.
4
Tirnodau Allweddol:
Ar ôl ichi droi ger y siop ‘Premier’ (i’r dde o gyfeiriad Y Fali neu i’r chwith o Lanfaethlu), gyrrwch yn syth yn eich blaenau. Byddwch chi’n pasio stad o dai o’r enw ‘Parc Llynnon’ ar y chwith i chi.
6
Cyrraedd Sawna Bedo Sauna:
Trowch i’r dde wrth yr adwy hon i gyrraedd Sawna Bedo Sauna. Trwy ddilyn y camau hyn yn ofalus, a chan gadw llygad graff am y tirnodau dan sylw, dylech allu dod o hyd i Sawna Bedo Sauna yn ddidrafferth.
Parcio am Ddim
Mae yma gyfleuster parcio rhad ac am ddim; gofynnwn yn garedig ichi barcio yn y mannau dynodedig, os gwelwch chi’n dda.
Glampio
Glampio Bedo Glamping ar y Safle
Dewch ar ffo i safle glampio moethus yng nghyfaredd cefngwlad Môn. Dewch am benwythnos braf i leddfu’ch enaid, wrth ichi ymgolli ym myd natur. Treuliwch eich dyddiau’n fforio Llwybr Arfordirol trawiadol Ynys Môn,gan feddwi ar olygfeydd panoramig a synau byw y môr. Ymlaciwch yn y twba poeth,gyda’r nos, gan olchi i ffwrdd eich gofidiau; a mwynhewch fuddion iechyd y sawna mewn amgylchedd o heddwch di-dechnoleg. Dyma’r ffordd berffaith i ailgysylltu â natur ac i adfywio’ch ysbryd.
Ewch i'r wefan